Marwnad Gr' ap Adda ap Dd' Fardd ao 17 Ed
3 floruit 1390
1 Rhagawr mawr ger mvr gwyngalch
2 lle bu berllanllwydd llv balch
3 Bod yn galw is afalwydd
4 Eos yn nos ac yn nydd
5 Kethlolaes edn coeth loywlef
6 Kav nyth megis Kyw o nef
7 Evrwawd lef ar weddeiddfaingc
8 Orlais goeth ac irlwys gaingc
9 Gwedy del gwawd adeilym
10 [87r] gwyllt seythydd llamhidydd llym
11 O ddwysdravl brad i ddystryw
12 A bollt bedryollt bedw ryw
13 cyd bai llawn dawn d'awenydd
14 o berffrwyddth gweddeiddlwyth gwydd
15 yni bydd cerdd fydr o hydr hoed
16 eb loyw degan blodeugoed
17 Powys gwlad ffraethlwys ffrwythlawn
18 Per helgyrn pefr defyrn dawn
19 a oedd berllan gyfannedd
20 cyn lladd doethwas a glâs gledd
21 Bellach y mae wae wedd dawd
22 Beius gweilch heb eos gwawd
23 Adlaw beirdd owdl heb vrddas
24 Ydyw hon caseion cas
25 Os yw trymoch ers Trimis
26 Och ni bu och na bai is
27 Am gyfwrdd lef agwrdd lid
28 Awch arf yn lle ni cherid
29 Gruffydd gerddber aderyn
30 fab Adda difeia dyn
31 [87v] Pob dyn disalw a'i galwai
32 Pendefig mvreinfrig Mai
33 Ac organ dra diddan draidd
34 Ac avr eos garuaidd
35 Gwenynen serchgwawd barawdwir
36 Gwenwyn doeth Gwenwynwyn dir
39 Dyrys i'w gar ei daraw
40 Dewr o lid a dur i'w law
41 Arf a roes eirioes orofn
42 Ar fy mrawd gleddyfawdd ddofn
47 Drwy fanwallt gwalch o falchlin
48 Och fi ddaëd awch ei fin
43 Triawch y cledd pand truan
44 Trwy felynflew dyn glew glân
45 Trawiad vn lladdiad a llif
46 Toriad hagr trwy iad digrif
49 Dig wyf vn doriad a gwydd
50 Deuddryll ond oedd wladeiddrwydd
51 Deuryvdd liw angel melyn
52 Dwred avr deryw y dyn
Da' ap Glm'